OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2018 Rhif (Cy. )
TIROEDD COMIN, Cymru
Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) (Rhif 2) 2018
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Caniateir i dir gael ei gofrestru fel maes tref neu bentref o dan yr amgylchiadau a bennir yn adran 15 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”). Un o nodweddion pob un o’r amgylchiadau hynny yw bod rhaid bod nifer sylweddol o drigolion unrhyw ardal leol, neu unrhyw gymdogaeth o fewn ardal leol, wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cyfreithlon ‘drwy hawl’ ar y tir o dan sylw am gyfnod o 20 mlynedd o leiaf.
Mae adran 15A(1) o Ddeddf 2006 yn caniatáu i berchennog tir o’r fath adneuo datganiad gyda’r awdurdod cofrestru tiroedd comin, ac effaith hyn yw dwyn i ben unrhyw gyfnod lle mae personau wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cyfreithlon drwy hawl ar y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef. Rhaid i fap fynd gyda’r datganiad.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag adneuo datganiadau o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006 a materion cysylltiedig.
Mae rheoliad 3 yn rhagnodi ffurf y datganiad y caniateir ei adneuo gyda’r awdurdod cofrestru tiroedd comin a ffurf y map y mae’n rhaid iddo fynd gyda’r datganiad.
Mae rheoliad 4 yn galluogi’r awdurdod cofrestru tiroedd comin i ragnodi ffi resymol mewn perthynas ag adneuo datganiad.
Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â phryd y mae datganiad i’w drin fel pe bai wedi ei adneuo gyda’r awdurdod cofrestru tiroedd comin.
Mae rheoliad 6 yn gwneuddarpariaeth sy’n ymwneud â’r modd y mae’n rhaid i’r awdurdod cofrestru tiroedd comin reoli’r broses o adneuo datganiad, a rhoi cyhoeddusrwydd iddi.
Mae rheoliad 7 yn cynnwys gofynion sy’n ymwneud â gwybodaeth benodol y mae’n rhaid ei chynnwys yn y gofrestr sy’n ofynnol o dan adran 15B(1) o Ddeddf 2006.
Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â’r modd y mae’n rhaid i’r awdurdod cofrestru tiroedd comin gadw’r gofrestr honno sy’n ofynnol o dan adran 15B(1) o Ddeddf 2006, gan gynnwys gofynion sy’n ymwneud â fersiynau papur a fersiynau electronig.
Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth sy’n caniatáu i’r awdurdod cofrestru tiroedd comin dynnu cofnod o’r gofrestr honno, neu unrhyw ran o gofnod, yn achos camgymeriad perthnasol, yn ddarostyngedig i hysbysiad blaenorol.
Mae rheoliad 10 yn dirymu Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2018 Rhif (Cy. )
tiroedd comin, Cymru
Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) (Rhif 2) 2018
Gwnaed 17 Hydref 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Hydref 2018
Yn dod i rym 22 Hydref 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r awdurdod cenedlaethol priodol gan adrannau 15A, 15B a 59 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau
Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) (Rhif
2) 2018 a deuant i rym ar 22 Hydref 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr awdurdod” (“the authority”) yw’r awdurdod cofrestru tiroedd comin;
ystyr “cofrestr” (“register”) yw’r gofrestr y mae’n ofynnol i’r awdurdod ei chadw o dan adran 15B(1) o Ddeddf 2006 mewn cysylltiad â mapiau a datganiadau a adneuir o dan adran 15A o’r Ddeddf honno;
ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006;
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;
mae i “hysbysiad adneuo” (“notice of deposit”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(3)(b);
ystyr “perchennog perthnasol” (“relevant owner”) yw’r perchennog sy’n adneuo datganiad;
ystyr “tir perthnasol” (“relevant land”) yw’r tir y mae’r datganiad o dan sylw yn ymwneud ag ef.
Ffurfiau rhagnodedig y datganiad a’r map
3.—(1)(1) Rhaid i
ddatganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006—
(i) gan bob un o berchnogion y tir perthnasol sy’n unigolyn, neu gan gynrychiolydd iddo a awdurdodwyd yn briodol; a
(ii) gan ysgrifennydd neu ryw swyddog arall a awdurdodwyd yn briodol pob un o berchnogion y tir perthnasol sy’n gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig.
(2) Rhaid i’r map y mae’n rhaid iddo fynd gyda’r datganiad yn unol ag adran 15A(3) o Ddeddf 2006 fod yn Fap Ordnans, ar raddfa o ddim llai nag 1:10,560, sy’n dangos ffin y tir perthnasol ag ymyl lliwiedig.
Ffioedd
4.—(1)(1) Caiff yr awdurdod bennu ffi resymol am adneuo
datganiad.
(2) Rhaid i’r perchennog perthnasol dalu unrhyw ffi a bennir yn unol â pharagraff (1) i’r awdurdod.
Amseru adneuo
(a) datganiad sy’n cydymffurfio â rheoliad 3(1);
(b) map sy’n cydymffurfio â rheoliad 3(2); ac
(c) unrhyw ffi sy’n daladwy yn unol â rheoliad 4.
Rheoli’r datganiad a rhoi cyhoeddusrwydd iddo
6.—(1)(1) Pan
fo’r awdurdod yn ystyried na chydymffurfiwyd ag unrhyw un neu
ragor o’r gofynion y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 neu 4(2),
rhaid iddo roi hysbysiad i’r perchennog perthnasol i’r
perwyl hwnnw.
(2) Rhaid i hysbysiad o’r fath—
(a) nodi’r gofyniad o dan sylw; a
(b) nodi’r rhesymau pam y mae’r awdurdod yn ystyried na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad.
(3) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael datganiad yn unol â rheoliad 3(1), map yn unol â rheoliad 3(2) ac unrhyw ffi sy’n ofynnol gan reoliad 4, rhaid i’r awdurdod—
(a) anfon cydnabyddiaeth eu bod wedi dod i law at y perchennog perthnasol; a
(b) rhoi hysbysiad bod datganiad wedi ei adneuo (“hysbysiad adneuo”) yn unol â pharagraff (4).
(a) cyhoeddi hysbysiad adneuo ar ei wefan;
(b) cyflwyno hysbysiad adneuo i unrhyw berson sydd wedi gofyn yn flaenorol am gael ei hysbysu am bob datganiad sydd wedi ei adneuo gyda’r awdurdod ac sydd wedi rhoi cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post i’r awdurdod at y diben hwnnw;
(c) arddangos hysbysiad adneuo am 60 o ddiwrnodau o leiaf—
(i) wrth o leiaf un fynedfa amlwg i’r tir perthnasol, neu yn ei hymyl; neu
(ii) mewn unrhyw achos lle na cheir lleoedd o’r fath, mewn o leiaf un lle amlwg ar ffin neu yn ymyl ffin tir o’r fath.
(5) Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (4) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi, gyda’r mewnosodiadau neu’r hepgoriadau hynny sy’n angenrheidiol mewn lle penodol.
(6) Pan fo hysbysiad sy’n cael ei arddangos o dan baragraff (4)(c), heb unrhyw fai na bwriad ar ran yr awdurdod, yn cael ei dynnu, ei guddio neu ei ddifwyno cyn i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, mae’r awdurdod i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw.
Yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y gofrestr
7.—(1)(1) Rhaid i’r
gofrestr gynnwys—
(a) manylion cyswllt y person yn yr awdurdod y caniateir gwneud ymholiadau iddo ynghylch y gofrestr;
(b) mynegai i’r gofrestr; ac
(c) unrhyw wybodaeth arall y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn briodol.
(2) Rhaid i’r gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn cysylltiad â phob map a datganiad a adneuir gyda’r awdurdod—
(a) copi o’r map ac unrhyw allwedd sy’n mynd gyda’r map neu’n ffurfio rhan ohono;
(b) copi o Ran B o’r datganiad;
(c) enw a chyfeiriad y perchennog perthnasol, gan gynnwys ei god post;
(d) y dyddiad y cafodd y datganiad a’r map eu hadneuo gyda’r awdurdod;
(e) manylion y tir a amlinellir ar y map, gan gynnwys—
(i) cyfeirnod grid chwe ffigur yr Arolwg Ordnans o bwynt o fewn yr ardal a amlinellir;
(ii) enw’r ward etholiadol, y dosbarth neu’r gymuned y mae’r tir ynddo neu ynddi;
(iii) cyfeiriad a chod post yr adeiladau hynny ar y tir y neilltuwyd cod post iddynt; a
(iv) enw’r dref neu’r ddinas sydd agosaf at y pwynt y cyfeirir ato ym mharagraff (i).
Y modd y cedwir y gofrestr
8.—(1)(1) Rhaid i’r gofrestr—
(a) cael ei chadw ar ffurf electronig ac ar bapur;
(b) cael ei chadw mewn rhannau fel bod pob rhan—
(i) yn ymwneud â thir o fewn ward etholiadol benodol, dosbarth penodol neu gymuned benodol; a
(ii) yn cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 7.
(2) Rhaid i’r awdurdod gadw’r gofrestr mewn modd sy’n addas i alluogi i gopi o unrhyw fanylion sydd wedi eu cynnwys ar y gofrestr gael ei gymryd gan unrhyw berson, neu ar gyfer unrhyw berson, sy’n gofyn am gopi yn bersonol yn y swyddfa berthnasol.
(3) Rhaid i fersiwn bapur y gofrestr gael ei chadw yn y swyddfa berthnasol.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “swyddfa berthnasol” (“relevant office”) yw—
(a) pan fo’r awdurdod wedi pennu swyddfa at ddiben y Rheoliadau hyn ar ei wefan, y swyddfa a bennwyd felly;
(b) fel arall, prif swyddfa’r awdurdod.
Tynnu cofnodion o’r gofrestr
9.—(1)(1) Caiff yr awdurdod dynnu cofnod, neu unrhyw ran
o gofnod, o’r gofrestr os yw wedi ei fodloni bod y map
neu’r datganiad o dan sylw yn cynnwys camgymeriad
perthnasol.
(2) Cyn tynnu cofnod o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod roi rhybudd o ddim llai na 28 o ddiwrnodau i’r perchennog perthnasol o’i fwriad i wneud hynny.
Dirymu Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018
10. Mae Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018([2]) wedi eu dirymu.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
17 Hydref 2018
ATODLEN 1 Rheoliad 3(1)(a)
Ffurf y Datganiad
Ffurf y datganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 |
||||||
Darllenwch y canllawiau a ganlyn cyn llenwi’r ffurflen hon
1. Rhaid llenwi Rhannau A i C ym mhob achos.
2. Rhaid i’r datganiad gael ei lofnodi a’i ddyddio gan bob un o berchnogion y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef sy’n unigolyn, neu gan gynrychiolydd iddo a awdurdodwyd yn briodol; a chan ysgrifennydd, neu ryw swyddog arall a awdurdodwyd yn briodol, pob un o berchnogion y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef pan fo’r perchennog hwnnw yn gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig.
3. Yn achos tir sydd o dan gydberchnogaeth, rhaid i’r holl gydberchnogion lenwi paragraffau 2 a 3 o Ran A a llenwi a llofnodi Rhan C, oni bai bod cynrychiolydd a awdurdodwyd yn briodol yn llenwi ac yn llofnodi’r ffurflen ar ran holl berchnogion y tir. Rhaid i baragraff 2 o Ran A gael ei lenwi yn llawn er mwyn egluro’n glir swyddogaeth y person sy’n cyflwyno’r datganiad ar gyfer ei adneuo (e.e., ymddiriedolwr, asiant rheoli’r perchennog tir, ysgutor etc.).
4. Diffinnir perchennog (‘owner’) yn adran 61(3) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 a’i ystyr yn fras yw perchennog cyfreithiol y buddiant rhydd-ddaliadol yn y tir.
5. Pan fo’r datganiad yn ymwneud â mwy nag un parsel o dir, dylid cynnwys disgrifiad o bob parsel ym mharagraff 5 o Ran A a dylid llenwi gweddill y ffurflen mewn modd sy’n nodi’n glir pa ddatganiad sy’n ymwneud â pha barsel o dir. Gallai hyn olygu mewnosod geiriau ychwanegol. Rhaid nodi parseli lluosog o dir yn glir drwy gyfrwng ymyl lliwiedig ar unrhyw fap sy’n mynd gyda’r datganiad.
6. Rhaid i fap ordnans, y mae’n rhaid iddo fod ar raddfa o ddim llai nag 1:10,560, sy’n dangos ffin y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef ag ymyl lliwiedig, fynd gyda’r datganiad.
7. Rhaid i’r ffi ofynnol fynd gyda datganiad – cysylltwch â’r Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin perthnasol i gael manylion pellach.
|
||||||
RHAN A: Gwybodaeth sy’n ymwneud â’r person sy’n cyflwyno’r datganiad i’w adneuo a’r tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef
1. Enw’r awdurdod neu’r awdurdodau cofrestru tiroedd comin y mae’r datganiad wedi ei gyfeirio ato neu atynt:
2. Statws y person sy’n cyflwyno’r datganiad i’w adneuo (ticiwch y blwch neu’r blychau perthnasol): (a) Fi yw perchennog y tir a ddisgrifir ym mharagraff 5 (b) Rwy’n cyflwyno’r datganiad i’w adneuo ar ran [rhowch enw’r perchennog tir] sy’n berchen ar y tir a ddisgrifir ym mharagraff 5 yn fy swyddogaeth fel [rhowch y manylion]
3. Enw, cyfeiriad post llawn (gan gynnwys y cod post), cyfeiriad e-bost a rhif ffôn cyswllt perchennog neu berchnogion y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef. Os oes mwy nag un perchennog tir, rhaid nodi enwau, cyfeiriadau post llawn (gan gynnwys y codau post), cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn cyswllt yr holl berchnogion tir:
4. Enw, cyfeiriad post llawn (gan gynnwys y cod post), cyfeiriad e-bost a rhif ffôn cyswllt unrhyw berson sy’n cyflwyno’r datganiad i’w adneuo ar ran y perchennog neu’r perchnogion:
5. Disgrifiad o’r tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef (gan gynnwys y cyfeiriad llawn a’r cod post):
6. Cyfeirnod neu gyfeirnodau grid chwe ffigur yr Arolwg Ordnans ar gyfer pwynt sydd o fewn arwynebedd y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef (os yw neu os ydynt yn wybyddus):
|
||||||
RHAN B: Datganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006
[Fi yw / [rhowch enw’r perchennog] yw] perchennog y tir a ddisgrifir ym mharagraff 5 o Ran A o’r ffurflen hon ac a ddangosir wedi ei liwio mewn [rhowch y lliw] ar y map sy’n mynd gyda’r datganiad hwn.
[Rwyf / Mae [rhowch enw perchennog y tir]] yn dymuno dwyn i ben unrhyw gyfnod lle gallai personau fod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cyfreithlon drwy hawl ar y tir cyfan neu unrhyw ran o’r tir a ddangosir wedi ei liwio mewn [rhowch y lliw] ar y map sy’n mynd gyda’r datganiad hwn.
(dilëwch y geiriau o fewn cromfachau petryal fel y bo’n briodol a/neu rhowch wybodaeth yn ôl y gofyn)
|
||||||
RHAN C: Datganiad o wirionedd
Os ydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neu’n gwneud datganiad yr ydych yn gwybod ei fod, neu y gallai fod, yn anwir neu’n gamarweiniol, ac yn bwriadu drwy hynny wneud budd i chi eich hun neu i berson arall, neu beri colled neu’r perygl o golled i berson arall, gallech fod yn cyflawni’r drosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a’r gosb uchaf am hynny yw carchar am 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neu’r ddau.
Rwy’n credu bod y ffeithiau a’r materion a gynhwysir ar y ffurflen hon yn wir
Llofnod (y person sy’n gwneud y datganiad o wirionedd):
Enw llawn (priflythrennau):
Dyddiad (diwrnod / mis / blwyddyn):
Dylech gadw copi o’r ffurflen sydd wedi ei chwblhau
|
||||||
RHAN D: Gwybodaeth ychwanegol sy’n berthnasol i’r datganiad
Rhowch unrhyw wybodaeth ychwanegol sy’n berthnasol i’r datganiad
|
||||||
|
ATODLEN 2 Rheoliad 6(5)
Ffurf yr Hysbysiad Adneuo
Hysbysiad am adneuon gan berchnogion tir o dan adran 15A(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006
|
[Rhowch enw’r Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin perthnasol]
Mae datganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”) wedi ei adneuo mewn perthynas â’r tir a ddisgrifir isod ac a ddangosir mewn [rhowch y lliw] ar y map sy’n mynd gyda’r datganiad.
BYDDWCH CYSTAL Â NODI:
Gall adneuon a wneir o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006 effeithio ar y gallu i gofrestru tir o’r fath fel maes tref neu bentref o dan adran 15 o’r Ddeddf honno.
Disgrifiad o’r tir neu’r tiroedd (gan gynnwys y cyfeiriad llawn a’r cod post):
Cyflwynwyd y datganiad [i’w adneuo gan [rhowch enw’r perchennog] / [ar ran [rhowch enw’r perchennog a nodir]] a daeth i law’r awdurdod hwn ar [rhowch y dyddiad].
Mae’r awdurdod yn cynnal cofrestr o fapiau a datganiadau o dan adran 15B o Ddeddf 2006.
Gellir gweld y gofrestr ar-lein yn [rhowch gyfeiriad y wefan a’r ddolen] neu gellir edrych arni yn rhad ac am ddim yn y cyfeiriad isod ac ar yr adegau a nodir isod:
[Rhowch y cyfeiriad lle gellir gweld y gofrestr] [Rhowch amserau agor y cyfeiriad lle gellir gweld y gofrestr]
Llofnodwyd ar ran [enw’r awdurdod]:
Enw a swydd y llofnodwr:
Dyddiad:
|
([1]) 2006 p. 26. Mewnosodwyd adrannau 15A a 15B gan adran 15 o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27). Diwygiwyd adran 15A gan adran 53 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”). Gweler adrannau 15A(9) a 15B(5) am y diffiniad o “prescribed”. Gweler y diffiniadau o “regulations” ac “appropriate national authority” yn adran 61(1). Mae adran 55 o Ddeddf 2015, a pharagraff 9 o Atodlen 7 iddi, yn diwygio adran 61(1) fel bod “appropriate national authority” yn golygu Gweinidogion Cymru o ran Cymru.